Ein Gwasanaethau
Gwasanaethau Cyfieithu
Yn BWT, rydym yn arbenigo mewn darparu gwasanaethau cyfieithu Saesneg-Cymraeg o safon uchel. Bydd ein tîm o gyfieithwyr profiadol yn sicrhau bod eich dogfennau’n cael eu cyfieithu’n gywir tra’n cynnal cyd-destun a naws y cynnwys gwreiddiol. Rydym yn cynnig gwasanaethau cyfieithu ar gyfer dogfennau cyfreithiol, meddygol, technegol, a mwy.
Gwasanaethau
Ôl-olygu
Rydym hefyd yn cynnig gwasanaethau ôl-olygu ar gyfer dogfennau, erthyglau, llawysgrifau, ayyb. Bydd ein golygyddion medrus yn mireinio ac yn sgleinio eich testun fel ei fod yn eglur a chywir er mwyn sicrhau'r ddealltwriaeth orau bosibl.
Gwasanaethau Prawfddarllen
Bydd ein gwasanaethau prawfddarllen yn sicrhau bod eich cynnwys yn gywir ac yn hawdd ei ddeall. Byddwn yn adolygu ac yn golygu eich dogfennau'n ofalus, gan sicrhau eu bod yn ramadegol gywir ac yn cyfleu'r neges a fwriadwyd.
Am BWT
Asiantaeth gyfieithu wedi ei lleoli yng Ngogledd Cymru sy'n arbenigo mewn cyfieithiadau Saesneg-Cymraeg yw Better Welsh Translations (BWT). Mae pob aelod o'n tîm cyfieithwyr yn brofiadol ac yn ymroddedig i ddarparu gwasanaethau cyfieithu o ansawdd uchel i fusnesau ac unigolion fel ei gilydd. Rydym yn deall pwysigrwydd cyfieithiadau cywir ac yn ymdrechu i ddarparu gwasanaeth eithriadol i'n cleientiaid.
Pam Dewis BWT?
01
Cywirdeb
02
Ansawdd
03
Cyfrinachedd
Mwy o resymau
